Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

17 Medi 2018

SL(5)238 – Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae adran 108 o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy Orchymyn drefniadau asesu’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”) yn rhoi effaith gyfreithiol i’r trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol (ac eithrio unrhyw un a sefydlwyd mewn ysbyty) yng Nghymru. Yn benodol, mae Gorchymyn 2013 yn darparu bod rhaid i’r pennaeth anfon canlyniadau’r asesiadau darllen a rhifedd naill ai i’r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (“y SCYA”) neu at Weinidogion Cymru.

Nid yw’r SCYA yn casglu canlyniadau’r asesiadau darllen a rhifedd mwyach. Rhaid i ganlyniadau’r asesiadau yn y dyfodol gael eu hanfon at Weinidogion Cymru yn unig. Yn unol â hynny, mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2013 er mwyn dileu unrhyw gyfeiriad at y SCYA (erthygl 2(a) ac (e)).

O’r adeg y daw’r Gorchymyn hwn i rym bydd disgybl yn gallu sefyll fersiwn ar-lein o’r asesiadau. Bydd y fersiynau ar-lein o’r asesiadau yn cael eu marcio’n awtomatig gan feddalwedd gyfrifiadurol a bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno’n awtomatig i Weinidogion Cymru gan feddalwedd gyfrifiadurol. Yn yr achosion hynny nid yw’r ddyletswydd ar y pennaeth i farcio’r asesiadau yn unol â chynllun marcio’r PC (a ddiffinnir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2013) a chyflwyno marciau’r asesiadau i Weinidogion Cymru yn briodol. Yn unol â hynny, mae erthygl 2(b), (c) a (d) o’r Gorchymyn hwn yn datgymhwyso’r dyletswyddau hynny ar gyfer y disgyblion hynny sy’n sefyll y fersiynau ar-lein o’r profion.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Addysg2002

Fe’u gwnaed ar: 03 Gorffennaf 2018

Fe’u gosodwyd ar: 04 Gorffennaf 2018

Yn dod i rym ar: 01 Medi 2018

 

SL(5)244 – Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn rhoi swyddogaethau i Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) mewn perthynas â phersonau y mae’n ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y maeʼr Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 oʼr Ddeddf honno (“Personau Cofrestredig”). Maeʼr categorïau o Bersonau Cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

Mae Atodlen 1 i Ddeddf 2014 yn darparu y bydd gan y Cyngor 14 o aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i saith o’r aelodau hynny gael eu penodi o blith enwebeion sefydliadau a nodir mewn Rheoliadau (“Cyrff Enwebu”). Mae’r rhestr o’r Cyrff Enwebu wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2014 er mwyn hepgor paragraff 1 (y cofnod ar gyfer Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (Cymru)) a pharagraff 7 (y cofnod ar gyfer Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr). Mae’r Undebau hynny wedi uno bellach i greu undeb newydd sef yr Undeb Addysg Cenedlaethol. Felly, er mwyn adlewyrchu’r broses uno honno mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi ei ychwanegu at y rhestr o’r cyrff a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau 2014 (rheoliad 2(a)).

Diwygiwyd y categorïau o Bersonau Cofrestredig gan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 er mwyn cynnwys gweithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (“Categorïau Newydd”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2014 er mwyn caniatáu i gyrff sy’n cynrychioli’r Categorïau Newydd o Bersonau Cofrestredig enwebu personau i ddod yn aelodau o’r Cyngor. Yn unol â hynny mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y rhestr o Gyrff Enwebu y canlynol (rheoliad 2(b))—

(a) Council for Wales of Voluntary Youth Services Cyngor Cymreig y  Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol;

  (b) Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru;

  (c) National Training Federation for Wales Ltd; a

  (ch) Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Addysg (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: 17 Gorffennaf 2018

Fe’u gosodwyd ar: 19 Gorffennaf 2018

Yn dod i rym ar: 08 Awst 2018

 

 

 

 

                                                                                                                                  


SL(5)245 – Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 29(1)(a) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. 

Mae'r gwelliant a wneir gan y Rheoliadau hyn yn galluogi’r rhyddhad adfer safle i gael ei gymhwyso i waredu deunydd sy’n cynnwys uwchbridd yn unig. Bydd y gwelliant yn cael effaith mewn perthynas â gwarediadau trethadwy a wnaed ar y dyddiad y daw'r rheoliadau i rym neu ar ôl hynny.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: